Menter Iaith Casnewydd
Dilynwch ni ar
Follow us on
  • Croeso / Welcome
  • Gweithgareddau / Events
    • Plant / Children
    • Pobl Ifanc / Young People
    • Teulu / Family
    • Oedolion / Adults
    • Cymunedol / Community
    • Digwyddiadur / What's On
    • Newyddlen
    • Rhaglen Merched Y Wawr
  • Gofal Plant Cymraeg / Childcare in Welsh
    • Ysgol Bro Teyrnon
    • Ysgol Gymraeg Casnewydd
  • Cymraeg o'r Crud / 2 Languages from Day 1
  • Busnesau / Businesses
    • Cyfeirlyfr / Contact Book
  • Dysgu Cymraeg / Learning Welsh
  • Gwirfoddoli / Volunteering
  • Cysylltu / Contact
    • Cefndir / Background
    • Pwy ydym ni / Who are we?
    • Y Pwyllgor / The Committee
  • Dolenni Defnyddiol / Useful Links
  • Dogfennau / Documents
    • Menter Iaith Casnewydd
    • Fforwm Iaith Casnewydd
  • Polisi Preifatrwydd / Privacy Policy
  • Diwrnod Shwmae Su'mae

Blog Aled - Profiad Gwaith

7/19/2017

0 Comments

 
Helo, fy enw i yw Aled a dwi’n byw ym Mhontarddulais yn Abertawe. Dwi’n manychu Ysgol Gyfun Gwyr ar y foment ac yn dechrau blwyddyn 13 ym mis Medi. Ar gyfer lefel uwch gyfrannol dewisais astudio Cymraeg, Addysg Grefyddol a Hanes ac yn astudio’r BAC hefyd. Pryd mae gen i amser rhydd dwi’n gwneud nifer o bethau, dwi’n chwarae pêl-droed i’r dîm lleol fel gôlgeidwad ac yn chwarae 6 pob ochr pob dyd Mercher. Dwi’n hoff iawn o ddarllen llyfrau hanesyddol gan haneswyr megis A.J.P. Taylor a llyfrau ar Hitler a’r Gestapo. Dwi’n cymdeithasu llawer gan mynd allan gyda ffrinidiau a hefyd mae gen i tocyn tymor gyda’r Elyrch.

Wythnos yma dwi wedi cael profiad gwaith gan weithio gyda Catrin a Thomas o Menter Iaith Casnewydd. Yn ystod y dau diwrnod dwi wedi bod yma mae’r ddau ohonynt wedi bod yn croesawgar iawn gan cynnig lawer o gymorth a gwneud i mi deimlo’n gyfforddus. Ar y diwrnod cyntaf yn y bore, wnes i siarad â Thomas am sefyllfa’r Gymraeg fan hyn yng Nghasnewydd, roedd hyn yn gynorthwyol gan nad oeddwn yn ymwybodol o’r sefyllfa yma gan fy mod yn dod o Abertawe. I helpu mi ddeall y sefyllfa’n well rhoddodd Thomas lyfr Joshua Fishman i mi a oedd yn dangos wyth cam o ail-sefydlu iaith. Wrth darllen yr wyth cam yma roeddwn i gallu defnyddio gwaith Fishman a cymhwyso hi i’r sefyllfa fan hyn yng Nghasnewydd. O ganlyniad i hyn roeddwn yn deal sefyllfa Casnewydd yn gliriach ac yn sylweddoli’r dasg annod roedd Thomas a Catrin yn gwynebu.

Yn y prynhawn wnes i creu holiadur ar gyfer pobl sydd yn defnyddio gwasanaethau Menter Iaith. Yma roeddwn i gallu defnyddio fy sgiliau TGCh i greu holiadur apelgar a oedd yn edrych yn proffesiynnol. Rhoddod Catrin canllawiaith i mi ar y dasg gan nodi cwestiynnau posib gallai defnyddio. Gan defnyddio deunyddiau Microsoft Word i gyd fe wnes i greu holiadur sydd yn cynnwys cwestiynnau perthnasol a eang. Hefyd yn y prynhawn rhoddod Thomas tasg i mi greu cwis ar gyfer y cwis dwyieithog nesaf mae Menter Iaith yn cynnal. Rhoddodd hyn y gyfle i mi defnyddio fy nghwybodaeth am Cymru, Hanes, Chwaraeon a nifer o bethau arall er mwyn creu’r cwis. Hoffwn credu fy mod i wedi creu cwis annodd fydd yn cael y cynulleidfa i meddwl!
Ar ddydd Mawrth wedyn wnes i greu tabl ar Microsoft Excel a oedd yn dangos ‘analytics’ y cyfrif Trydar dros y tair mis diwethaf. Nid oeddwn wedi defnyddio Excel llawer yn y gorffennol onr roedd Thomas yn help mawr wrth i mi gyflawni’r dasg. Ar ôl gorffen hynny es i a Thomas allan i Commercial Street I geisio codi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg yn y gweithle gan darparu adnoddau am ddim i siopau a busnesau’r dinas. Wrth i ni fynd o siop I siop roeddwn yn talu sylw ar sut roedd Thomas yn ceisio gwerthu’r iaith i’r gweithwyr a dysgais llawer am sgiliau pobl wrth wneud hyn. Dywedodd Thomas am ei brofiadau wrth gwneud hyn o’r blaen ac roeddwn mewn sioc i dysgu am y lleiafrif o bobl oedd ddim yn siarad Cymraeg yn y gweithle. Ond er hyn roedd bron pob cwmni wedi cymryd ein adnoddau a roedd y taith yn un llwyddiannus ac addysgiadol. Pan gyrhaeddon nôl I’r Brifysgol roedd Thomas eisisau i mi ysgrifennu adroddiad am y bore a’r ymateb derbynon o’r siopau. Gan crynhoi beth roedd Thomas esisiau weld yn y darn es i ati i ysgrifennu’r ddarn gan cynnwys ystadegau a’r adborth derbynom yn ystod y taith I greu adroddiad cadarn a chywir.
Hoffwn rhoi diolch enfawr i Catrin a Thomas am roi’r cyfle i mi weithio gyda Menter Iaith Casnewydd am y ddau ddiwrnod yma. Dwi wedi cael fy drin fel oedolyn yn lle disgybl ysgol ac wedi dysgu lawer o bethau newydd yn ystod y brofiad yma.

0 Comments

Siop a Siarad

4/10/2017

0 Comments

 
Er gwybodaeth, ni fydd yna sesiwn 'Siop a Siarad' ar Ebrill 15fed oherwydd gwyliau'r Pasg.

Byddem yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn, Ebrill 22ain.

For your information, there won't be a session on the 15th of April due to the Easter holidays.

We will return on Saturday, 22nd April.


Picture
0 Comments

Gweithdy Cwmni Drama Tin Shed Theatre  Workshop

4/1/2016

0 Comments

 
HYn ystod gwyliau'r Pasg cynhaliwyd weithdy drama gyda Chwmni Tin Shed. Cafodd y plant amser ardderchog yn ail-greu storïau cyfarwydd mewn darnau byr o ddrama.
Dyma fideo o ambell i berfformiad! Mwynhewch!

During the Easter Holidays, a theatre workshop was held by Tin Shed Theatre company to recreate familiar stories through short drama pieces.
Here's a few videos of the performances! Enjoy!
0 Comments

Sbort a Sbri Pasg / Easter

3/24/2016

0 Comments

 
Bydd wythnos gyfan o weithgareddau yn digwydd yn ein Clwb Gwyliau yr Wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Ifor Hael felly gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud yn fawr o'r cyfle i gael hwyl yn y Gymraeg yn ystod y gwyliau!
Bydd Angharad, Chloe ac Ellie yno i'ch diddanu!

I archebu lle cofiwch ddanfon neges at 07970 304219 i sichrau eich lle!


There wll be a full week of activities next week in our Holidau Club at Ysgol Gymraeg Ifor Hael so make sure that you make the most of the opportunity to have fun in Welsh during the holidays!

Angharad, Chloe and Ellie will be there ready to entertain! 

To keep a place please send a message to 07970 304219 asap!
Picture
Picture
0 Comments

Siop a Siarad

5/16/2015

0 Comments

 
Bob bore Sadwrn mae cyfle i ddod i ymarfer eich Cymraeg ac i brynu llyfrau ac anrhegion Cymraeg yn y Cwtsh yn ardal yr Handpost yng Nghasnewydd.
Mae Siop chwim Dalen Newydd yno bob Sadwrn gyda danteithion i'r darllenwyr yn eich plith. Mae gemau ac anrhegion ac wrth gwrs cardiau cyfarch Cymraeg yn addas at bob achlysur!

Mae croeso i bawb o bob oed i ddod am baned a sgwrs!
Os ydych yn fodlon gwirfoddoli i gynorthywo yna cysylltwch â ni am faynlion!

Every Saturday morning there is an opportunity to practice your Welsh and buy Welsh books and gifts Welsh  at the Cwtsh on the Handpost in Newport.
Dalen Newydd's pop-up shop is there every Saturday with literary treats for the readers among you. There are games and gifts and of course Welsh greeting cards fit for every occasion!

All ages an abilities welcome to come for coffee and a chat!
If you would like to volunteer to assist then please contact us for details!
Picture
Picture
0 Comments

Siarter Iaith i ysgolion Casnewydd / Language Charter for Newport Schools

5/16/2015

0 Comments

 
Ar ddydd Gwener Mai y 15fed daeth Gwenan Ellis Jones o Hunaniaith, Gwynedd, i drafod Siarter Iaith Gwynedd gyda phenaethiaid a chydlynyddion llythrenedd ysgolion Cymraeg Casnewydd yngyd â swyddogion o Fentrau Iaith yr ardal a 'r consortiwm Addysg lleol y GCA. Penllanw prosiect Mwy na siarad oedd y sesiwn i edrych ar y Siarter yn fanylach ac edrych i weld a fyddai'r Siarter yn gallu cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion yng Nghasnewydd. 

Gydag agoriad arfaethedig ysgol uwchradd newydd i Gasnewydd flwyddyn nesaf, mae'n amserol iawn ein bod yn cynllunio'n fwriadus ar gyfer cyfleoedd i'n plant i fagu hyder yn y Gymraeg ac i fod yn barod a hyderus i'w defnyddio ym mhob agwedd o fywyd.

Mae'r Siarter yn mapio defnydd iaith ein disgyblion a'r staff ac yn dangos yr agweddau sydd angen eu datblygu. Creir gwe iaith i ddangos y sefyllfa ar gychwyn y flwyddyn ac wrth gynnal holiaduron achlysurol dros gyfnod y flwyddyn gellir mesur effaith y gweithredu sydd wedi digwydd yn sgîl y wybodaeth hon. 

Trafodwyd brosiectau megis Gemau Buarth, jambori, Prosiectau Dathlu Diwylliant...i enwi dim ond ambell i syniad!

Cafwyd trafodaeth dda a bywiog a digon o syniadau yn cychwyn llifo! 
Gwyliwch y gofod!

On Friday, May 15th Gwenan Ellis Jones of Hunaniaith, Gwynedd, came to discuss the Gwynedd Language Charter with head teachers and literacy co-ordinators of Newport Welsh medium schools along with Welsh Language Initiative officials of the surrounding area and the local education consortium of the EAS. This session was the culmination of the  Mwy na Siarad ( More than talking ) project where we  examined the Charter in more detail and  whether the  Charter could be used in schools in Newport.

With the opening of the proposed new high school to Newport next year, it is very timely that we plan appropriately for our children to ensure they have ample opportunities to develop their confidence in Welsh and to be confident and ready to use the language in all aspects of life.

The Charter maps pupils' and staff's social use of Welsh and shows the aspects that need to be developed. A language web is created to show the position at the beginning of the year and  by conducting questionnaires periodically over the year, schools can measure the impact of the actions taken during the year..

Discussed on the day were protects such as Playground Games, jamboree, a Project to Celebrate Culture ... to name just a few ideas!

There was a good and lively discussion and plenty of ideas have  started flowing!
Watch this space!
0 Comments

Gweithio gyda'n gilydd / Working Together

5/16/2015

0 Comments

 
Picture
Dyma faner a luniwyd gan blant hynaf Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ac Uned Awtistiaeth Ysgol Maes Ebw, sydd yn digwydd  bod yn byw drw nesaf i'w gilydd ar ben bryn Brynglas! 
Cawsom hwyl yn gwrando ar yr anthem genedlaethol ac yn meddwl am sut hoffen ni ddangos ein balchder o fod yn Gymry a byw yng Nghymru mewn symbolau a siapau syml. Yna, roedd y lliwiau yn gorfod bod yn llachar! Roedd y lliwio yn waith caled ond cafodd bawb hwyl yn siarad gyda'n gilydd am Gymru!
 
Here's a banner that was made by the older children at Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon and the ASD unit at Maes Ebw that live next door to each other on the top of Brynglas hill! 
We had lots of fun listening to the national anthem and thinking how we would like to show how proud we are to be Welsh and to live in Wales through simple shapes and symbols. Then, we had to use bright colours to make them stand out!. The hard work was the colouring in, but we had a good time speaking to each other about Wales!
0 Comments

Cwis Clwb y Cornel

5/16/2015

0 Comments

 
Nos Wener cynhaliwyd gwis Clwb y Cornel yn nhafarn gwesty'r Queens, Stryd y Bryn, Casnewydd. Roedd yn noson hwyliog gyda 5 tîm yn cystadlu'n frwd am y wobr gyntaf! 
Llongyfarchiadau i dîm y Gweddill ar ennill y Cwis!

Picture
0 Comments

    Newyddion / News

    Y Newyddion diweddaraf o Gasnewydd
    The latest News from Newport

    Archif / Archives

    July 2017
    April 2017
    April 2016
    March 2016
    May 2015

    RSS Feed

Powered by Create your own unique website with customizable templates.